Myfyrwyr Canolfannau Peilot

Enw Myfyriwr Sasha
Canolfannau
Cwrs: Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru
Lefel diploma Advanced
Opsiynau a gymerir:


Yr wyf yn dilyn y Bagloriaeth Cymru Uwch ac yn astudio'r pynciau canlynol yn fy Opsiynau:

U2 Y Gyfraith
U2 Cymdeithaseg
U2 Seicoleg

Yr wyf yn datblygu'r Sgiliau Allweddol ehangach i gyd - Gweithio gydag Eraill, Datrys Problemau, Gwella Eich Dysgu a'ch Perfformiad Eich Hun - trwy Ddiploma Uwch y Bac Cymreig. Mae Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif, TG yn cael eu hennill trwy fy opsiynau Safon Uwch a gweithdai sgiliau allweddol wythnosol.

Llynedd, fel myfyriwr UG, cwblheais CEB ac ABCh gan fwynhau'r agweddau cymdeithasol a gwleidyddol yn arbennig, a chefais innau a myfyrwyr eraill y Bac ein hysbrydoli i ddewis project cymunedol oedd yn cysylltu ag Ymgyrch Rheoli Arfau Amnest Rhyngwladol. Yr wyf wrthi ar hyn o bryd yn casglu tystiolaeth am y sgiliau allweddol ehangach trwy weithio gydag eraill ar y project hwn sy'n cynnwys gwneud fideo i godi ymwybyddiaeth o'r ymgyrch a hefyd i wneud cyflwyniad i eraill yn fy ngholeg, a hefyd i ysgolion ac eglwysi lleol. Yr wyf hefyd yn gwella fy nysgu fy hun trwy gynhyrchu'r fideo ac rwy'n mwynhau'r sialensau a'r problemau a ddaw yn sgîl y project hwn. Ym mis Mawrth byddaf yn mynd i stadiwm y Mileniwm i roi cyflwyniad ar y project cymunedol hwn i gynulleidfa, a fydd yn cynnwys myfyrwyr eraill o Gymru sydd wedi bod yn ymwneud â phrojectau dan nawdd Dysg.

Mae fy Ymchwiliad Unigol ar dderbyniad trosedd yn y cartref yng Nghymru a gwledydd eraill Ewrop, gan fod y mater hwn wedi tynnnu fy sylw pan gawsom siaradwyr gwadd o'r heddlu a'r lloches menywod lleol, mewn sesiynau CEB llynedd.

Yr wyf yn defnyddio fy ngwaith rhan-amser fel profiad gwaith, gan fy mod yn gweithio, rhan-amser, yn Tesco, fel cynorthwy-ydd cwsmeriaid.

Credaf fod y Bac wedi rhoi cyfle i mi gwrdd â myfyrwyr eraill na fyddwn fel arfer yn gweithio gyda hwy ac mae'r amrywiaeth hwn yn apelio ataf. Teimlaf fod ail flwyddyn y Bac yn cynnig cyfle i mi ddatblygu sgiliau newydd ac rwy'n mwynhau'n fawr rheoli project lle y mae'n rhaid i mi ddefnyddio fy menter ac mae hyn yn cynyddu fy hyder.

Gobeithiaf allu mynd i'r brifysgol i astudio'r gyfraith a throseddeg ac ymuno â'r heddlu ar ôl graddio.