Myfyrwyr Canolfannau Peilot

Enw Myfyriwr Nicholas
Canolfannau Coleg Sir Gâr
Cwrs: Diploma Canolradd Bagloriaeth Cymru
Lefel diploma Intermediate
Opsiynau a gymerir:


Yr wyf ar hyn o bryd yn astudio cwrs Diploma Cenedlaethol mewn Gwasanaethau Cyhoeddus. Llynedd yn y coleg roeddwn ar y cwrs Diploma Cyntaf ac enillais Radd teilyngdod ar ddiwedd y flwyddyn. Yn ogystal â'r prif gymhwyster Gwasanaethau Cyhoeddus roeddwn hefyd yn un o'r myfyrwyr cyntaf yn ein coleg i wneud Bagloriaeth Cymru.

Yn ogystal ag astudio amrywiol rannau'r Bac, llwyddais hefyd mewn 6 sgìl allweddol ar lefel 2. Y rhain oedd: Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif, TG, Gweithio gydag Eraill, Datrys Problemau a Gwella Eich Dysgu a'ch Perfformiad Eich Hun. I ennill y sgiliau allweddol hyn roeddem wedi cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau gan gynnwys gweithgareddau awyr agored. Roedd rhai o'r rhain gyda'r Fyddin a sefydlodd weithgareddau fel y gallem gyflawni'r sgiliau allweddol Gweithio gyda Eraill a Datrys Problemau. Mwynheais y rhain a gweithgareddau ymarferol yn fawr iawn yn ogystal â'r teithiau a drefnwyd ar ein cyfer fel rhan o'r Bac Cymreig.

Ar gyfer fy ymchwiliad unigol edrychais ar ddigartrefedd yng Nghymru a Lloegr ac yna gwneud cymhariaeth â'r broblem yn Rwmania. Yn yr ymchwiliad hwn edrychais ar bethau fel achosion digartrefedd, canlyniadau digartrefedd a hefyd beth sy'n cael ei wneud i geisio helpu pobl sydd yn canfod eu hunain yn y sefyllfa hon.

Er mwyn gwneud fy mhrofiad gwaith euthum i siop chwaraeon o'r enw Gilesport a leolir yn y dref. Roeddwn yn y siop am y rhan fwyaf o'r wythnos yn helpu'r cwsmeriaid ac yn gweithio ar y ddesg arian. Mae gennyf swydd ran-amser ar hyn o bryd mewn clwb nos lle'r wyf wedi bod yn gweithio am y flwyddyn ddiwethaf. Dechreuais trwy gasglu gwydrau ac rwyf hefyd wedi gweithio y tu ôl i'r bar ac fel goruchwyliwr.

Un o'm prif ddiddordebau yw rygbi. Yr wyf wedi cyflawni llawer yn fy nghamp. Cefais fy newis i chwarae dros dîm bechgyn ysgol Llanelli pan oeddwn yn yr Ysgol Gyfun. Hefyd euthum i Gasnewydd i chwarae mewn Cystadleuaeth Saith Bob Ochr ac yn y gystadleuaeth hon roeddem wedi colli yng nghystadleuaeth y prif gwpan ond wedi mynd ymlaen i ennill cystadleuaeth y darian yn erbyn ysgolion da iawn. Yr wyf bellach yn aelod o Academi Chwaraeon Gorllewin Cymru. Mae gennym ddau dîm yn yr Academi ac rwy'n chwarae dros y ddau dîm. Yn ddiweddar enillodd yr ail dîm eu dwy gêm ddiwethaf ac maent yn agos at ennill eu cynghrair.

Yr wyf yn astudio'r cwrs Diploma Cenedlaethol yn y coleg ar hyn o bryd ond rwyf yn gobeithio ymuno â'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Rwy'n gobeithio aros yn y fyddin am ychydig o flynyddoedd ac yna gadael i gyflawni fy nyhead i fod yn Heddwas gyda'r Heddlu Metropolitan.