- English
- |
- Cymraeg
Myfyrwyr Canolfannau Peilot
| Enw Myfyriwr | Mathew |
| Canolfannau | |
| Cwrs: | Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru |
| Lefel diploma | Advanced |
| Opsiynau a gymerir: | UG Y Gyfraith, U2 Cymdeithaseg, U2 Saesneg Iaith |
Yr wyf yn dilyn y Bagloriaeth Cymru Uwch ac yn astudio'r pynciau canlynol yn fy Opsiynau:
UG Y Gyfraith
U2 Cymdeithaseg
U2 Saesneg Iaith
Yr wyf yn datblygu'r Sgiliau Allweddol ehangach i gyd - Gweithio gydag Eraill, Datrys Problemau, Gwella Eich Dysgu a'ch Perfformiad Eich Hun - trwy Ddiploma Uwch y Bac Cymreig. Yr wyf yn ennill Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif, TG, trwy fy opsiynau Safon Uwch a'r gweithdai sgiliau allweddol wythnosol.
Fy nghyfranogiad cymunedol yw gweithio gyda myfyrwyr eraill y Bac ar broject sy'n hyrwyddo ymgyrch Amnest Rhyngwladol i reoli arfau. Mwynheais yn fawr agweddau Cymdeithasol a Gwleidyddol CEB yn fy mlwyddyn gyntaf ac roeddwn yn hoff o'r ffordd y buom mewn cysylltiad ag AS ac AC lleol gan y rhoddodd hynny gyfle i mi feddwl mwy o ddifrif am faterion cyfredol mewn ffordd fwy hysbys. Mwynheais yn arbennig gwrdd â Jane Davidson a David Milliband.
Mae fy ymchwiliad unigol ar y tueddiadau cynyddol i droseddu â gynnau yn y DG a'i gymharu â thueddiadau yn Ewrop.
Yr wyf yn defnyddio fy swydd ran-amser yn McDonalds fel profiad gwaith. Mwynheais yn arbennig yr wythnos Fenter a ymgymerwyd y llynedd, ym mis diflas Ionawr, gan ei fod wedi'm cymell a'm hysbrydoli i wneud fy nodau yn gliriach a chynllunio sut i'w cwblhau, tra'n cynnig profiad gwahanol iawn i mi am wythnos.
Mae fy niwtoriaid yn fy arwain trwy wahanol gydrannau'r Bac ac yn fy marn i mae bod yn fyfyriwr Bac yn rhoi rhywbeth yn ychwanegol i mi. Pan benderfynais beidio â symud ymlaen i'r U2 mewn Seicoleg, gwyddwn y byddai'r Bac yn gwella fy nghais UCAS, nid â'r pwyntiau yn unig ond hefyd â'r profiad ychwanegol a enillais trwy gymryd y Bac gan fy mod yn gobeithio astudio Cyfraith Busnes yn y Brifysgol. Er fy mod yn byw yn Lloegr, mae astudio mewn coleg Cymreig a chymryd y Bac Cymreig wedi'm hannog i wneud cais i astudio am fy ngradd yng Nghymru.