- English
- |
- Cymraeg
C, S
Myfyrwyr Canolfannau Peilot
| Enw Myfyriwr | Gareth |
| Canolfannau | Ysgol Gyfun y Barri |
| Cwrs: | Diploma Canolradd Bagloriaeth Cymru |
| Lefel diploma | Intermediate |
| Opsiynau a gymerir: | TGCh - Uwch Dwyradd (TAA), Cyfrifiaduro U2, Astudiaethau Busnes U2 |
Rwyf yn dilyn Diploma Canolradd Bagloriaeth Cymru ac yn astudio'r pynciau canlynol yn fy Opsiynau:
TGCh - Uwch Dwyradd (TAA)
Cyfrifiaduro - U2
Astudiaethau Busnes - U2
Rwyf yn datblygu'r chwe Sgil Allweddol - Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif, TG, Gweithio gydag Eraill, Datrys Problemau, Gwella Eich Dysgu a'ch Perfformiad Eich Hun - trwy Ddiploma Canolradd y Bac Cymreig.
Fel rhan o ddatblygu sgiliau allweddol Gweithio gydag Eraill a Datrys Problemau rwyf wedi bod yn gwneud gweithgareddau awyr agored megis dringo a chroesi afon. Mwynheais yn fawr y cyfle i wella fy sgiliau allweddol. Fel grðp roedd rhaid i ni feddwl am syniadau ar gyfer croesi'r afon yn ddiogel. Rhoddwyd offer diogelwch, rhaffau a harnais i ni ac roedd rhaid i ni gael bob un o'r tîm ar draws yr afon yn ddiogel.
Ar gyfer fy ymchwiliad unigol edrychais ar ddyfodol Rygbi Cymru yn Ewrop o'i gymharu ag Iwerddon. Dadansoddais berfformiadau diweddar y ddau dîm a strwythurau mewnol rygbi taleithiol yn y ddwy wlad ac yna olrheiniais y cynnydd posibl ym mhencampwriaeth y chwe gwlad sydd i ddod.
Euthum i AB connectors yn Abercynon ar gyfer fy lleoliad gwaith ac roedd rhaid i mi gwblhau llawer o dasgau amrywiol a osodwyd ar fy nghyfer gan fy aseswyr. Roedd y rhain yn cynnwys dileu a gosod meddalwedd newydd, diweddaru peth o'r meddalwedd presennol a gosod llawer o eitemau newydd o galedwedd ar rwydwaith y cwmni. Gan fod hwn yn ddiwydiant yr wyf yn dymuno gweithio ynddo ar ôl cwblhau fy addysg, roedd hwn yn brofiad hynod o werthfawr i mi a dysgais lawer hefyd am weithio fel rhan o dîm.
Mae'r arweiniad a gaf gan fy nhiwtoriaid o gymorth mawr, yn enwedig mewn rhai pynciau ac wrth ysgrifennu traethodau.
Rwyf yn gobeithio symud ymlaen i wneud y Diploma Uwch.