Myfyrwyr Canolfannau Peilot

Enw Myfyriwr Hannah
Canolfannau Ysgol Sant Cyres
Cwrs: Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru
Lefel diploma Advanced
Opsiynau a gymerir: U2 Hanes, U2 Astudio'r Cyfryngau, U2 Llywodraeth a Gwleidyddiaeth



Yr wyf yn dilyn y Bagloriaeth Cymru Uwch ac yn astudio'r pynciau canlynol yn fy Opsiynau:

U2 Hanes
U2 Astudio'r Cyfryngau
U2 Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

Astudiais UG Saesneg hefyd yn fy mlwyddyn gyntaf yn y Chweched Dosbarth.

Yr wyf yn datblygu'r chwe Sgil Allweddol - Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif, TG, Gweithio gydag Eraill, Datrys Problemau, Gwella Eich Dysgu a'ch Perfformiad Eich Hun - trwy Ddiploma Uwch y Bac Cymreig.

Fy nghyfranogiad cymunedol oedd codi £2000 ar gyfer Sefydliad Joshua, elusen i blant gyda chanser terfynol. Roedd hwn yn brofiad gwobrwyol iawn, gan fy mod hefyd wedi treulio tair wythnos yn Awstralia yn gwneud gwaith cadwraeth fel rhan o hyn.

Mae fy ymchwiliad unigol yn gyflwyniad Powerpoint ar gynrychiolaethau o Gymry enwog yn y cyfryngau yng Nghymru o'i gymharu â sut y portreadir personoliaethau o Gymru yn yr Unol Daleithiau.

Mwynheais fy mhrofiad gwaith yn fawr. Roeddwn yn ddigon ffodus i allu treulio wythnos yn gweithio yn swyddfa seneddol ein AS lleol Alun Michael yn Llundain. Mae hyn hefyd wedi bod o gymorth i mi ar fy nghwrs UG Gwleidyddiaeth.

Mae'r cyfweliadau un i un gyda'r tiwtor personol o gymorth mawr. Mae'r amrywiaeth o brojectau, testunau a sgiliau allweddol a drafodir yn y Bac yn ddiddorol ac mae'r tiwtor yn fy helpu i gadw popeth mewn trefn. Mae'n nhw'n fy annog a'm cymell.

Roeddwn yn falch iawn o glywed y bydd y Bac Cymreig werth 120 pwynt UCAS. Yr wyf yn gobeithio gallu mynd i'r brifysgol i astudio darlledu a newyddiaduraeth.