- English
- |
- Cymraeg
Bagloriaeth Cymru yn Helpu Dysgwyr i Ennill Prentisiaethau gyda Corus
16 Chwef 2010

Fel rhan o’u hastudiaethau ar gyfer Bagloriaeth Cymru, dilynodd un ar bymtheg o fechgyn o Ysgol Glan y Môr ym Mhorth Tywyn gwrs a oedd yn canolbwyntio ar beirianneg.
Mae’r Fagloriaeth yn seiliedig ar ‘Graidd’ sy’n ategu cymwysterau traddodiadol fel Safon Uwch, NVQ a TGAU. Mae’r Craidd hwn yn cynnwys addysg gysylltiedig â gwaith, addysg bersonol a chymdeithasol (gan gynnwys cyfranogiad cymunedol), sgiliau allweddol, ac astudiaeth unigol.
Fel rhan o brosiect cysylltiedig â gwaith gyda’r cwmni lleol Corus, aeth y myfyrwyr ati ar y cyd i greu dyfais i falu ceir. Roedd hwn yn gyfle iddynt roi prawf ar eu sgiliau peirianneg newydd.
Ers cwblhau Bagloriaeth Cymru y llynedd, mae pob un ohonynt, sydd erbyn hyn yn mynychu Coleg Sir Gâr yn Llanelli, wedi sicrhau prentisiaethau gyda chwmnïau lleol, gan gynnwys Corus. Dyma gam pwysig tuag at yrfa mewn peirianneg.
Mae Stephanie Marks, cydlynydd Bagloriaeth Cymru yn Ysgol Glan y Môr, wedi cefnogi’r myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau a’u lleoliadau gwaith. Mae hi o’r farn bod y dull cyflawn o addysgu trwy Fagloriaeth Cymru yn rhoi mwy o brofiad a gwell cyfleoedd iddynt.
Dywedodd:
"Mae Bagloriaeth Cymru yn ffordd wych i fyfyrwyr wella’u hyder ym mhob agwedd ar fywyd, a hynny wrth ddatblygu eu galluoedd academaidd.
"Cymerodd yr holl fyfyrwyr ran mewn gweithgareddau lleol, fel mentora darllenwyr ifanc, trefnu disgo cymunedol, a gosod y goleuadau ar gyfer y ddrama ysgol. Roedd hyn oll yn rhan o elfen cyfranogiad cymunedol y cymhwyster.
"Yn ogystal â’r hunanddisgyblaeth a’r cymhelliant sydd eu hangen i gyflawni lleoliadau mewn gweithle go iawn, mae’r sgiliau a enillir trwy Fagloriaeth Cymru yn gwella hunanhyder y myfyrwyr ac yn eu paratoi ar gyfer byd gwaith a bywyd yn gyffredinol.
"Mae’n bleser mawr gweld bod gwaith caled y myfyrwyr wedi’u helpu i ennill prentisiaethau, a’u bod ar y trywydd iawn i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus ym maes peirianneg."
Ychwanegodd Gayle Budden, ymgynghorydd Adnoddau Dynol Corus Packaging Plus:
"Mae Corus bob amser yn awyddus i gefnogi myfyrwyr â’u haddysg trwy brosiectau seiliedig ar waith, prentisiaethau, a lleoliadau gwaith. Rydym yn ymwybodol o bwysigrwydd datblygu pobl ifanc dawnus sy’n barod i weithio.
"Roeddem yn falch iawn o allu helpu’r myfyrwyr i finiogi eu sgiliau peirianneg. Dyma ddymuno pob llwyddiant iddynt yn eu gyrfaoedd."
Meddai Leighton Andrews, y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes:
"Mae’n galonogol iawn clywed bod Bagloriaeth Cymru yn gyfle i bobl ifanc ehangu eu gorwelion addysgol, a’i bod yn eu paratoi at yrfaoedd yn y dyfodol.
"Rwy’n fodlon tu hwnt bod ysgolion fel Ysgol Glan y Môr yn cyflwyno Bagloriaeth Cymru i’w cwricwlwm ac yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr fanteisio ar yr amrywiol fuddion a gynigir ganddi."