Dros 200 o ganolfannau’n cynnig Bagloriaeth Cymru

7 Ion 2010


Cyhoeddodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg y bydd nifer y canolfannau sy’n cynnig Bagloriaeth Cymru yn cynyddu ym mis Medi 2010 o 167 i 217, gan groesawu tua 7,000 o ddysgwyr newydd.

Mae Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster unigryw a gynlluniwyd i baratoi myfyrwyr yn well ar gyfer addysg uwch, astudiaethau pellach a’r byd gwaith. Mae’n cyfuno sgiliau datblygu personol a chymwysterau presennol (megis Safon Uwch, NVQ a TGAU) mewn cymhwyster sy’n boblogaidd gyda myfyrwyr ac sy’n cael llawer o barch gan gyflogwyr a phrifysgolion. Ar lefel Safon uwch, mae Bagloriaeth Cymru yn werth 120 o bwyntiau UCAS.

Cymhwyster eang iawn yw Bagloriaeth Cymru sy’n cwmpasu tair lefel wahanol - Sylfaen, Canolradd ac Uwch. Cymhwyster grŵp ydyw, sy’n cynnwys adran graidd orfodol ynghyd â chymwysterau sydd wedi hen ennill eu plwyf megis Safon Uwch, TGAU a NVQ. Mae dysgwyr hefyd yn gallu cynnwys cymwysterau Prif Ddysgu a chymwysterau Prosiect, a gynlluniwyd i roi blas i fyfyrwyr ar faes galwedigaethol penodol a chanolbwyntio ar ddysgu seiliedig ar waith, a hynny yn aml mewn lleoliadau galwedigaethol.

Dywedodd y Gweinidog:
"Mae Cymhwyster Bagloriaeth Cymru wedi bod yn llwyddiant mawr. Mae myfyrwyr, athrawon, academyddion a chyflogwyr oll yn cydnabod pwysigrwydd Bagloriaeth Cymru.

"Bydd y dysgwyr yn y canolfannau newydd fydd yn ymuno â’r cynllun o fis Medi ymlaen yn cael cyfleoedd gwych fydd yn rhoi sylfaen dda iddynt wrth iddynt ddod yn oedolion.

"Ynghyd â rhoi dysgwyr o Gymru ar y blaen, mae’r rhai sy’n astudio Bagloriaeth Cymru yn dweud bod ganddynt fwy o hyder a ‘sgiliau bywyd’ gwell o ganlyniad i’w hastudiaethau.

"Mae Bagloriaeth Cymru yn darparu sgiliau sy’n gallu bod yn llwybr at astudiaethau pellach neu waith."