Cymwysterau Cymhwysol Newydd o fewn Cymhwyster Bagloriaeth Cymru

12 Mai 2009


Cynhelir dwy gynhadledd ym Mehefin i ddiweddaru canolfannau ar y cymwysterau Prif Ddysgu a chymwysterau Prosiect newydd sydd ar gael o fewn Cymhwyster Bagloriaeth Cymru.

  • Dydd Mawrth 10 Mehefin 2009 Venue Cymru, Llandudno
  • Dydd Iau 15 Mehefin 2009 Gwesty’r Marriott, Caerdydd

Danfonwyd llythyr o wahoddiad a ffurflen gais at Brifathrawon/Penaethiaid Ysgolion Uwchradd a Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru, Cyd-gysylltwyr Rhwydwaith 14 – 19 a Randdeiliaid allweddol yng Nghymru.

Ym Mehefin 2008, trefnodd APADGOS ddwy gynhadledd ar y cymwysterau Prif Ddysgu a chymwysterau Prosiect newydd sydd ar gael o fewn Cymhwyster Bagloriaeth Cymru.

O fis Medi 2009 ymlaen, yng ngham cyntaf y broses gyflwyno, bydd y cymwysterau Prif Ddysgu ar gael (ar y tair lefel) mewn Peirianneg, Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig, Creadigol a’r Cyfryngau a Thechnoleg Gwybodaeth.


O fis Medi 2010 ymlaen, yn yr ail gam, bydd chwe chymhwyster Prif Ddysgu arall ar gael, mewn astudiaethau Amgylcheddol a Diwydiannau’r Tir, Gwallt a Harddwch, Lletygarwch, Gweithgynhyrchu a Dylunio Prosiectau, Busnes, Gweinyddu a Chyllid a Chymdeithas, Iechyd a Datblygu.

Rhaid i’r cymhwyster Prosiect neu’r Prosiect Estynedig (ar lefel tri) gael ei gwblhau gyda’r cymhwyster Prif Ddysgu, er y bydd hefyd ar gael tu allan i Gymhwyster Bagloriaeth Cymru.


Er mwyn sicrhau bod cydweithwyr yn cael cyfle digonol i drafod a deall y cynlluniau hyn, bydd APADGOS yn cynnal dwy gynhadledd ranbarthol arall yn Ne a Gogledd Cymru, y naill ar 10 Mehefin a’r llall ar 15 Mehefin 2009. Yn y cynadleddau, rhoddir gwybodaeth am y cymwysterau eu hunain, sut y gellir eu cynnig trwy Gymhwyster Bagloriaeth Cymru, y lefel o gyllid sydd ar gael ar gyfer datblygu’r cyrsiau a pha ysgolion a cholegau a all gyfranogi. Bydd yno stondinau gwybodaeth gan amrywiaeth o randdeiliaid hefyd, megis Cyrff Dyfarnu a chynghorai Sgiliau Sector a bydd cyfle i rwydweithio a rhannu arferion da.

Mae’r cynadleddau yn briodol ar gyfer canolfannau presennol y Cymhwyster Bagloriaeth Cymru YN OGYSTAL Â chanolfannau sy’n ystyried cyflwyno Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ym mis Medi 2010.

Ar gyfer athrawon fydd yn dod i’r seminar, ad-delir costau athro cyflenwi ar gyfer hyd at ddau pherson ym mhob ysgol ynghyd â threuliau rhesymol.