Bydd busnesau de Cymru’n elwa ar Gymhwyster Arloesol, medd pennaeth siop fawr

25 Gorff 2008


wbq_newport_1

Steve Robb, rheolwr Burton's Casnewydd gyda myfyriwr y Bagloriaeth Cymreig, Adam Hedges

Bydd cyflogwyr de Cymru’n elwa ar fanteision cymhwyster newydd sy’n rhoi posibiliadau gwaith ardderchog i bobl ifainc drwy eu paratoi’n fwy trylwyr at y gweithle.

Dyna farn rheolwr siop fawr yng Nghasnewydd sydd wedi dweud ei bod hi’n llawer haws dewis darpar weithwyr oherwydd Cymhwyster Bagloriaeth Cymru sy’n dod yn gynyddol boblogaidd.

Mae Bagloriaeth Cymru’n rhoi cydnabyddiaeth ffurfiol i nifer o weithgareddau fel profiad gwaith, addysg bersonol a chymdeithasol a gwaith gwirfoddol.

Mae hefyd yn cynnwys cymwysterau sefydledig fel Safon Uwch, TGAU ac NVQ ac yn ychwanegu lled a chydbwysedd drwy raglen graidd o weithgareddau gan gynnwys hyfforddiant ym mhob un o’r chwe Sgìl Allweddol.

Dywedodd Steve Robb, rheolwr Burton Menswear yng nghanol dinas Casnewydd fod y cymhwyster yn ei helpu ef a phenaethiaid busnes eraill i ddod o hyd i bobl ifainc â’r ymrwymiad sydd ei angen i wynebu heriau’r gweithle. Yn ddiweddar, cyflogodd y siop ddisgybl o Ysgol Gyfun St Julian’s yn lleol, sydd wedi bod yn rhedeg rhaglen beilot yn y cymhwyster arloesol.

Mae Mr Robb yn un o nifer cynyddol o gyflogwyr yn ne Cymru sy’n cydnabod y sgiliau a’r galluoedd ychwanegol y mae Bagloriaeth Cymru yn eu rhoi i bobl ifainc.

O 21 Medi eleni bydd ysgolion a cholegau ledled de ddwyrain Cymru yn darparu’r cymhwyster, gan ddod â chyfanswm y bobl ifainc yn y rhanbarth sy’n astudio at y cymhwyster i tua 3,300. Eisoes mae gan St Julian’s 27 myfyriwr sy’n cymryd Bagloriaeth Cymru ar lefel ganolradd, gyda rhyw 35 arall yn barod i ymrestru ym mis Medi eleni.

Yn ddiweddar rhoddodd Mr Robb swydd i Adam Hedges, 17 oed, fel gynorthwyydd gwerthu ar ôl i’r myfyriwr a fu’n astudio Bagloriaeth Cymru berfformio ‘ben ac ysgwydd yn uwch’ na’r ymgeiswyr eraill a ddaeth i gael cyfweliadau.

Meddai: "Rydyn ni’n trin myfyrwyr sy’n dod yma am brofiad gwaith yn union fel y bydden ni’n trin unrhyw un sy’n ymgeisio am swydd. Yn aml iawn rydyn ni’n cael pobl ifainc sy’n cydnabod nad ydyn nhw’n gwybod dim am y cwmni ac sy’n amlwg heb wneud unrhyw ymchwil.

"Adam oedd un o’r rhai gorau gawson ni erioed. Roedd wedi gwneud ei waith cartref, yn gwybod am y busnes a dyna agorodd y drws iddo."

Dywedodd Mr Robb ei bod hi’n ymddangos bod Bagloriaeth Cymru wedi rhoi rhagor o hyder i Adam yn ei sgiliau rhyngbersonol. "Roedd ganddo ddiddordeb mewn adwerthu, roedd yn ddeallus, yn rhoi’r atebion cywir i gyd ac roedd yn amlwg yn gallu gwneud beth oedd ei angen i’r swydd."

Dywedodd Adam o Heol Durham, Casnewydd, ei fod yn falch fod y cwrs wedi ei baratoi mor dda at y cyfweliad. "Fe ddwedwyd wrtha i y byddai gwneud ychydig o ymchwil yn help a dw i’n falch iawn i mi gymryd yr amser i wneud hynny. Dw i’n mwynhau’r gwaith – mae wedi bod yn agoriad llygaid," ychwanegodd.

Dywedodd Jean Ritter, Cydlynydd Galwedigaethol St Julian’s : "Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i Fagloriaeth Cymru, sy’n cynnig her llawn mwynhad ac yn rhoi cymaint o wahanol brofiadau i’r myfyrwyr.

"Mae’n sicr wedi bod yn hwb i’w hyder ac wedi’u helpu i ddatblygu pob un o’u sgiliau allweddol. Mae ein myfyrwyr Bagloriaeth Cymru wedi dod yn ddysgwyr annibynnol sy’n mwynhau mynd allan i weithio achos eu bod wedi’u paratoi mor dda am hyn cyn gadael yr ysgol."
O fis Medi 2008, bydd Bagloriaeth Cymru ar lefel Sylfaen, Canolradd ac Uwch ar gael o 106 canolfan ledled Cymru a chaiff ei gyflwyno i ryw 23,000 dysgwr.

Croesawodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, y gefnogaeth gynyddol gan gyflogwyr i’r rhaglen.

Meddai: "Un o brif amcanion y cymhwyster yw helpu i wneud economi Cymru’n fwy cystadleuol drwy alluogi pobl ifainc i ddod yn fwy hyderus ac effeithiol yn y gweithle. Mae’n galonogol iawn fod cyflogwyr yn cydnabod gwerth y ffordd newydd hon o fynd ati i ddysgu."

Yr wythnos hon cyhoeddodd y Gweinidog y caiff Bagloriaeth Cymru ei chyflwyno’n gyffredinol ar lefel Sylfaen ar lefel ôl-16 ac ar lefelau sylfaen a chanolradd yng Nghyfnod Allweddol 4 o fis Medi 2009.

Hefyd cyhoeddodd y Gweinidog y bydd y Cymwysterau Prif Ddysgu a Phrosiect sy’n cael eu datblygu i’r Diplomâu 14-19 yn Lloegr ar gael o fewn fframwaith Cymhwyster Bagloriaeth Cymru o fis Medi 2009. Gwahoddir ceisiadau i fod yn rhan o gyflwyno’r ddarpariaeth newydd hon gan Rwydweithiau 14-19.