Cymhwyster Newydd Bagloriaeth Cymru yn Paratoi Pobl Ifanc ar gyfer Gwaith a Phrifysgol meddai Pennaeth Busnes yn y Gogledd

25 Gorff 2008


Bydd pobl ifanc yn fwy parod nag erioed i fod yn weithwyr effeithiol, entrepreneuriaid neu fyfyrwyr prifysgol, diolch i gymhwyster hyblyg newydd, meddai menyw fusnes flaenllaw yn y Gogledd.

Dywedodd Heather Clwyd Roberts, sy'n rhedeg Businesswork Solutions, busnes cyfrifeg blaenllaw yn Rhuthun , fod cymhwyster cynyddol boblogaidd Bagloriaeth Cymru yn rhoi'r sgiliau y mae eu hangen ar bobl ifanc i wynebu heriau'r gweithle neu addysg uwch.

Mae Bagloriaeth Cymru yn rhoi cydnabyddiaeth ffurfiol i nifer o weithgareddau fel profiad gwaith, addysg bersonol a chymdeithasol a gwaith gwirfoddol. Mae hefyd yn cynnwys cymwysterau sefydledig fel Safon Uwch, TGAU a NVQ, ac mae'n cynnig cydbwysedd ac amrywiaeth drwy raglen graidd o weithgareddau sy'n gynnwys chwech sgil allweddol.

Mae Mrs Roberts yn ymweld ag Ysgol Brynhyfryd yn y dref yn rheolaidd, sef un o'r ysgolion cyntaf i roi'r cymhwyster blaengar ar brawf. Nod y cymhwyster yw rhoi cyfuniad i bobl ifanc o ddysgu academaidd a sgiliau ymarferol a datblygiad personol.

Mae hi'n un o nifer gynyddol o gyflogwyr yn y Gogledd sy'n cydnabod y sgiliau a'r galluoedd ychwanegol y mae Bagloriaeth Cymru yn eu rhoi i bobl ifanc.

O 24 Medi eleni ymlaen, bydd ysgolion ledled y Gogledd yn cynnig y cymhwyster, sy'n golygu y bydd tua 6,500 o bobl ifanc yn y rhanbarth yn elwa arno.
Mae Mrs Roberts yn fentor i dimau Menter yr Ifanc yn Ysgol Brynhyfryd, gan roi cyngor iddynt ar sefydlu a rhedeg busnes, ac mae hefyd yn hyfforddi myfyrwyr ar dechnegau cyfweliad.

Yn ogystal, mae'n 'fodel rôl' gyda Phrosiect Dynamo Llywodraeth y Cynulliad, gan weithio gydag ysgolion a cholegau yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, ac mae'n aelod o Fforwm Cyflogwyr Agenda Llwybrau 14-19 y Gogledd-ddwyrain, Bwrdd Strategol Menter yr Ifanc Sir Ddinbych a bwrdd Gyrfa Cymru.

Drwy ymgymryd â'r gweithgareddau hyn, mae mewn safle delfrydol fel person busnes i weld effaith gadarnhaol Bagloriaeth Cymru ar botensial gyrfa pobl ifanc leol.

Mae tua 400 o fyfyrwyr yn Ysgol Brynhyfryd eisoes yn dilyn y cymhwyster ar lefel Sylfaen, Canolradd ac Uwch, gyda lleoedd i 200 o ddysgwyr ychwanegol o fis Medi 2008.

Meddai Mrs Roberts: "O'm profiad i, mae Bagloriaeth Cymru wedi rhoi llawer mwy o hyder i fyfyrwyr yn eu sgiliau cyflwyno a chyfathrebu, a welir yn y gystadleuaeth Menter yr Ifanc. Rwy'n meddwl bod y cymhwyster yn datblygu myfyrwyr mwy cytbwys sy'n deall busnes yn dda."

Aeth Mrs Roberts ymlaen: "Rwy'n cwrdd â'r timau Menter yr Ifanc yn yr ysgol bob wythnos, ac mae chwech o'r myfyrwyr presennol mor awyddus i barhau ar ddiwedd y prosiect eu bod wedi cynnig mentora timau eraill flwyddyn nesaf. Mae eu syniadau a'u creadigrwydd bob yn amser yn cael argraff dda arnaf."

Meddai Linda Cooledge, pennaeth cynorthwyol Ysgol Brynhyfryd: "Rydym yn gwbl gadarnhaol am Fagloriaeth Cymru, sy'n cynnig y fath brofiadau a chyfleoedd amrywiol i'n myfyrwyr. Mae ein myfyrwyr bob amser wedi llwyddo i gael canlyniadau da; maen nhw hyd yn oed yn well erbyn hyn.

"Mae'r myfyrwyr yn fwy hyderus, yn fwy parod i gymryd rhan ym mywyd yr ysgol a'r gymuned, ac yn well yn cyfathrebu, yn datrys problemau ac yn cydweithio yn sgil Bagloriaeth Cymru. Mae yn dechrau dysgu'n annibynnol ac maent yn llawer mwy parod ar gyfer prifysgol a byd gwaith."

O fis Medi 2008 ymlaen, bydd Bagloriaeth Cymru ar lefel Sylfaen, Canolradd ac Uwch ar gael mewn 106 o ganolfannau ledled Cymru i oddeutu 23,000 o ddysgwyr.

Mae'r ysgolion a'r colegau yng Nghymru sy'n cynnig y cymhwyster yn dweud ei fod yn cyfrannu at wneud y myfyrwyr yn ddysgwyr mwy effeithiol, yn gwella'u perfformiad academaidd ac yn rhoi sgiliau bywyd iddynt eu defnyddio mewn unrhyw sefyllfa, p'un ai mewn addysg uwch neu mewn gwaith.

Croesawodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, y ffaith bod mwy o gyflogwyr yn cefnogi'r rhaglen. Meddai: Un o nodau allweddol y cymhwyster yw helpu i wneud economi Cymru yn fwy cystadleuol drwy alluogi pobl ifanc i fod yn fwy hyderus ac effeithiol yn y gweithle. Mae'n galonogol bod cyflogwyr yn cydnabod gwerth y ffordd newydd hon o ddysgu."

Yr wythnos hon, cyhoeddodd y Gweinidog y bydd Bagloriaeth Cymru yn cael ei chyflwyno ar lefel Sylfaen ôl-16 ac ar lefel sylfaen a chanolradd yng Nghyfnod Allweddol 4 o fis Medi 2009 ymlaen.

Hefyd cyhoeddodd y Gweinidog y bydd y bydd y Prif Gymwysterau Dysgu a Phrosiect sy'n cael eu datblygu ar gyfer y Diplomas 14-19 yn Lloegr ar gael o fewn fframwaith cymhwyster Bagloriaeth Cymru o fis Medi 2009 ymlaen. Bydd ceisiadau i gymryd rhan yn y gwaith o gynnig y ddarpariaeth newydd hon yn cael eu gwahodd gan Rwydweithiau 14-19.