Myfyrwyr Cymhwyster Bagloriaeth Cymru’n Helpu Busnesau gydag Ymchwil Effeithlonrwydd Ynni

25 Gorff 2008


WBQ - Preseli 1
Disgyblion y Bagloriaeth Cymreig o Ysgol y Preseli - Tom Garnon, Luc Wise, Antony Cowburn a Rhys Newton gyda (o'r chwith) Chris Tansey o Manderwood Timber Engineering, Mike Edds o Firwood Homes ac athrawes Marie Williams.

Myfyrwyr Cymhwyster Bagloriaeth Cymru’n Helpu Busnesau gydag Ymchwil Effeithlonrwydd Ynni

Mae myfyrwyr a enillodd wobr wrth ddilyn cymhwyster arloesol mewn ysgol yng ngorllewin Cymru wedi helpu busnesau lleol i ddod o hyd i ffyrdd newydd o gael cartrefi i ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon.

Mae dau grŵp o fyfyrwyr chweched dosbarth o Ysgol y Preseli yng Nghrymych, gogledd Sir Benfro, wedi bod yn gweithio gyda Firwood Homes a Manderwood Timber Engineering, dau gwmni o Neyland, fel rhan o’u Cymhwyster Bagloriaeth Cymru.

Mae Bagloriaeth Cymru sy’n dod yn gynyddol boblogaidd, yn rhoi cydnabyddiaeth ffurfiol i nifer o weithgareddau a chyraeddiadau, gan gynnwys profiad gwaith, addysg bersonol a chymdeithasol a gwaith gwirfoddol.

Mae hefyd yn cynnwys cymwysterau cymeradwy presennol fel Safon Uwch, TGAU a NVQ fel ‘Dewisiadau’ ac yn ychwanegu lled a chydbwysedd drwy ei raglen graidd o weithgareddau, sy’n cynnwys profiad gwaith ychwanegol a hyfforddiant Sgiliau Allweddol.

O 12 Medi eleni bydd ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant ledled de orllewin Cymru yn cyflwyno’r cymhwyster, gan ddod â chyfanswm y bobl ifainc yn y rhanbarth sy’n astudio Bagloriaeth Cymru i tua 3,500.

Mae gan Ysgol y Preseli dros 500 myfyriwr sy’n cymryd y cymhwyster naill ai ar lefel Sylfaen, Canolradd neu Uwch ac mae’r ysgol yn ymwneud ag amrediad o brosiectau i ehangu eu dealltwriaeth o fyd gwaith.

Trefnwyd y prosiectau ynni gyda’r busnesau lleol o dan Gynllun Addysg Beirianneg Cymru (EESW), menter sy’n galluogi pobl ifainc, ddawnus i gael profiad o fyd peirianneg ac sy’n cyflwyno busnesau i genhedlaeth newydd o ddarpar beirianwyr a thechnegwyr. Cafodd myfyrwyr Ysgol y Preseli oedd yn cymryd Bagloriaeth Cymru lefel uwch eu paru â’r cwmnïau yn Neyland i wneud prosiect ymchwil yn gysylltiedig ag Adroddiad Stern ar gynhesu byd-eang a’r her o wneud cartrefi newydd yn rhai di-garbon erbyn 2016.

Dechreuodd un grŵp o fyfyrwyr y gwaith ddwy flynedd yn ôl, gan ennill gwobr gan EESW am y ddealltwriaeth orau o faterion amgylcheddol. Gorffennodd ail grŵp gam dau’r prosiect yn gynharach eleni.

Meddai Mike Edds, rheolwr gyfarwyddwr Firwood Homes, sy’n gweithgynhyrchu ac yn gosod paneli fframwaith coed i’r diwydiant adeiladu: "Mae cael siarad â phobl ifainc ddeallus a chael safbwynt arall ar yr hyn mae’r cwmni’n ei wneud yn chwa o awyr iach.

"Dw i’n credu ei bod hi’n beth da bod Bagloriaeth Cymru’n cymryd myfyrwyr allan o amgylchedd yr ysgol i roi dealltwriaeth iddyn nhw o beirianneg a thechnoleg. Un o’r awgrymiadau y meddylion nhw amdano oedd system gartrefu ar ffurf codennau i gartrefu rhagor o bobl a defnyddio lle’n well. Mae’n syniad cyfoes iawn."

Meddai Chris Tansey, rheolwr gyfarwyddwr Manderwood Timber Engineering, sy’n gweithgynhyrchu cyplau to a lloriau pren: "Ar ôl bod yn y busnes yma ers amser maith, roedd hi’n braf gweld brwdfrydedd y myfyrwyr wrth ymgymryd â phrosiect nad oedden nhw’n gwybod dim amdano a doedd dim ofn arnyn nhw.

"Fe feddylion nhw am syniadau newydd, diddorol ac roedd ganddyn nhw safbwynt gwahanol. Os yw’r prosiect yn arwain at un yn unig o’r myfyrwyr hyn yn dod i mewn i’n diwydiant ac yn dod yn berson blaenllaw, fe fydd wedi bod yn werth chweil."

Dywedodd Bob Elward, cydlynydd EESW yng ngorllewin Cymru fod myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn y prosiectau chwe mis yn cael lleoliadau tri diwrnod gyda phrifysgolion, lle maen nhw’n cael mynediad i’r holl gyfleusterau peirianneg a thechnegol. Penllanw’r prosiectau yw arddangosfa, asesiad a gwobrau yng ngwesty Celtic Manor Resort, Casnewydd.

"Rhaid i’r prosiectau fod yn ystyrlon, yn heriol ac o fudd i’r cwmni a’r myfyrwyr fel ei gilydd," meddai Mr Elward. "Mae cwmnïau’n cael canlyniadau cadarnhaol iawn oherwydd eu bod yn gweithio gyda myfyrwyr deallus sy’n defnyddio meddwl ochrol ac yn creu atebion arloesol.

"Bwriad y cynllun yw helpu myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am eu gyrfa neu addysg i’r dyfodol. Mae rhai o’r myfyrwyr yn mynd ymlaen i astudio peirianneg neu dechnoleg."

Mae’r prosiectau yn cynnwys Mentrau Celtaidd i flynyddoedd 9 a 10 wedi’u trefnu gan Gyrfaoedd Cymru a gwaith gwirfoddol i fyfyrwyr blynyddoedd 10 a 11 gyda Pharc Cenedlaethol Sir Benfro. Mae myfyrwyr blwyddyn 9 hyd yn oed yn cael eu cyflwyno i fenter drwy Ddiwrnodau Taith i’r Gwaith, pan fyddan nhw’n ymweld â busnesau lleol.

Mae Mentrau Celtaidd yn hyrwyddo entrepreneuriaeth mewn ysgolion drwy brofiad busnes go iawn. Gyda chefnogaeth arian Ewrop, sefydlwyd partneriaeth ryngwladol â De Ddwyrain Iwerddon a bu timau o bum myfyriwr mewn ysgolion ar bob ochr i’r Môr Celtaidd yn sefydlu a rhedeg busnesau am bum mis, gyda chystadleuaeth ar y diwedd.

Meddai Gwynfor Price, a gydlynodd Mentrau Celtaidd: "Mae gan Bagloriaeth Cymru elfen fenter gref, a ddylanwadwyd yn Ysgol y Preseli gan Mentrau Celtaidd. Drwy’r prosiect, cafodd myfyrwyr gyflwyniad i’r problemau a’r materion sy’n gysylltiedig â rhedeg cwmni.

"Yn ogystal roedd dimensiwn rhyngwladol oherwydd trefnwyd ymweliadau cyfnewid i’r myfyrwyr a enillodd, trefnwyd gweithgareddau’n ymwneud â busnes ar y cyd a chynadledda fideo cyson gyda myfyrwyr yn Iwerddon. Roedd y myfyrwyr hefyd yn ymwneud â phrosiect partneriaeth peilot gyda Gwlad Pwyl a Ffrainc.

"Bu newid pendant yn agwedd y myfyrwyr tuag at waith a busnes a llwyddon nhw i fagu hyder drwy gydol y prosiect."

Dywedodd Michael Davies, dirprwy bennaeth a chydlynydd Bagloriaeth Cymru fod yr ysgol wedi hybu cysylltiadau busnes agos a bod ganddi banel diwydiant gweithgar oedd yn cwrdd yn gyson. Llwyddodd noson addysg a busnes a drefnwyd gan yr ysgol i ddenu cynrychiolwyr o tua 80 busnes.

O fis Medi 2008, bydd Bagloriaeth Cymru ar lefel Sylfaen, Canolradd ac Uwch ar gael o 106 canolfan ledled Cymru a chaiff ei gyflwyno i ryw 23,000 dysgwr.

Mae ysgolion a cholegau yng Nghymru sydd wedi bod yn cyflwyno’r cymhwyster wedi dweud iddo gyfrannu i gael myfyrwyr yn ddysgwyr mwy effeithlon, iddo wella eu perfformiad academaidd ac iddo roi iddynt sgiliau bywyd y mae modd eu trosglwyddo i ba bynnag sefyllfa maen nhw’n eu cael eu hunain ynddi, Addysg Uwch neu fyd gwaith.

Croesawodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, y gefnogaeth gynyddol gan gyflogwyr i’r rhaglen. Meddai: "Un o brif amcanion y cymhwyster yw helpu i wneud economi Cymru’n fwy cystadleuol drwy alluogi pobl ifainc i ddod yn fwy hyderus ac effeithiol yn y gweithle. Mae’n galonogol iawn fod cyflogwyr yn cydnabod gwerth y ffordd newydd hon o fynd ati i ddysgu."

Yr wythnos hon cyhoeddodd y Gweinidog y caiff Bagloriaeth Cymru ei chyflwyno’n gyffredinol ar lefel Sylfaen ôl-16 ac ar lefelau Sylfaen a Chanolradd yng Nghyfnod Allweddol 4 o fis Medi 2009.

Hefyd cyhoeddodd y Gweinidog y bydd Cymwysterau Prif Ddysgu a Phrosiect sy’n cael eu datblygu i’r Diplomâu 14-19 yn Lloegr ar gael o fewn fframwaith Cymhwyster Bagloriaeth Cymru o fis Medi 2009. Gwahoddir ceisiadau i fod yn rhan o gyflwyno’r ddarpariaeth newydd hon gan Rwydweithiau 14-19.