Cyflwyno cymhwyster unigryw i fyfyrwyr Cymru

18 Chwef 2008


O fis Medi ymlaen, bydd bron 18,000 o fyfyrwyr yn cael y cyfle i astudio ar gyfer Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ar lefel y Diploma Uwch ôl-16 a’r Diploma Canolradd pan fydd ail gam proses cyflwyno’r cymhwyster yn mynd rhagddo.

Mae’r Gweinidog dros Addysg, Jane Hutt, wedi cytuno ehangu’r ddarpariaeth yn yr ysgolion, Sefydliadau Addysg Bellach a Darparwyr Hyfforddiant gan fod Llywodraeth y Cynulliad am weld 40 y cant o fyfyrwyr yn cymryd rhan yn y cymhwyster arloesol hwn erbyn 2010.

O fis Medi 2008, bydd:

  • 27 o ganolfannau newydd yn darparu’r cymhwyster ledled Cymru
  • Y ddarpariaeth yn cael ei hehangu mewn 24 o ganolfannau sydd eisoes yn cynnig y cymhwyster
  • Tua 9,000 o fyfyrwyr ychwanegol yn astudio ar gyfer Bagloriaeth Cymru
  • Cyfanswm o 102 o ganolfannau ledled Cymru yn cynnig Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ar lefel y Diploma Uwch a’r Diploma Canolradd

jhutt_sm
Yn ddiweddar, ymunodd Jane Hutt â disgyblion yn Ysgol Uwchradd Caerdydd, un o’r 27 o ganolfannau newydd, lle clywodd myfyrwyr o Ysgol Gyfun St Cyres yn sôn am eu profiadau nhw o astudio ar gyfer y cymhwyster.

Yn ystod yr ymweliad, cafodd deunyddiau marchnata newydd eu lansio, gan gynnwys gwefan ar ei newydd wedd. Mae’r rhain wedi’u datblygu i godi ymwybyddiaeth a dangos manteision astudio ar gyfer Bagloriaeth Cymru. Bydd deunyddiau newydd ar gyfer tiwtoriaid derbyn y prifysgolion a chyflogwyr yn pwysleisio sut y mae’r cymhwyster yn cynhyrchu is-raddedigion a gweithwyr mwy abl.

Meddai Jane Hutt: "Roedd yn wych cyfarfod â disgyblion sy’n edrych ymlaen at astudio ar gyfer y cymhwyster heriol ond cyffrous yma. Mae myfyrwyr yn cydnabod gwerth Bagloriaeth Cymru, p’un a ydyn nhw’n dewis mynd ymlaen i Addysg Uwch neu’n penderfynu mynd i weithio. Mae’n ardderchog fod Sefydliadau Addysg Uwch a chyflogwyr yn gweld fwyfwy sut mae myfyrwyr Bagloriaeth Cymru yn datblygu i fod yn unigolion hyderus ac eang eu haddysg.

"O brofiad, rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw rhoi cyfle i bobl ifanc feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo. Mae Bagloriaeth Cymru yn sicrhau bod myfyrwyr yn dysgu Sgiliau Allweddol trosglwyddadwy y gallan nhw eu defnyddio trwy gydol eu bywydau wrth ddysgu ac yn y gwaith.

"Rydym ni am weld pobl ifanc yn gwireddu ac yn cyflawni eu gwir potensial. Bydd cyflwyno ail gam y cymhwyster unigryw hwn, sy’n cael ei gydnabod ym mhedwar ban byd, yn sicrhau ein bod yn gosod seiliau cadarn ar gyfer dyfodol economaidd ac addysgol Cymru."

Y canolfannau a fydd yn cynnig cymhwyster Bagloriaeth Cymru ar lefel ôl-16 Uwch a Chanolradd am y tro cyntaf o fis Medi 2008 yw:

  • Ysgol Gyfun Heol-ddu
  • Ysgol Aberdaugleddau
  • Ysgol Uwchradd Caereinion
  • Cambrian Training
  • PRP Training
  • Ysgol Uwchradd Hawarden
  • Ysgol Emrys Ap Iwan
  • Ysgol Uwchradd Crucywel
  • Ysgol Gyfun Porthcawl
  • Ysgol Penweddig
  • Ysgol Gyfun Emlyn
  • Emp Training Dinas Abertawe
  • Ysgol Tonyrefail
  • Ysgol Gyfun Brynteg
  • Ysgol Uwchradd Eirias
  • Ysgol Olchfa
  • Ysgol Uwchradd Fitzalan - Caerdydd
  • Coleg Iâl
  • Ysgol Dyffryn Ogwen - Consortiwm Cynnal
  • Ysgol Tryfan - Consortiwm Cynnal
  • Ysgol y Creuddyn - Consortiwm Cynnal
  • Ysgol Syr Thomas Picton
  • Ysgol Croesyceiliog
  • Ysgol Gymunedol Glyn Rhedynog
  • Ysgol Uwchradd Caerdydd
  • Ysgol Llanilltud Fawr
  • Ysgol Uwchradd Llanidloes
  • Coleg Cymunedol Tonypandy (cymeradwywyd ym mis Chwefror 2007 - gohiriwyd mynediad i fis Medi 2008)
  • Ysgol Uwchradd Cyfarthfa (cymeradwywyd ym mis Chwefror 2007 - gohiriwyd mynediad i fis Medi 2008)

Y canolfannau presennol sy'n cynnig darpariaeth Bagloriaeth Cymru helaethach o fis Medi 2008 yw:

  • Ysgol y Preseli
  • Ysgol Syr Thomas Jones
  • Ysgol y Strade
  • Rhwydwaith Ardal Leol Casnewydd
  • Ysgol Brynhyfryd
  • Coleg Merthyr Tudful
  • Ysgol Uwchradd Tyllgoed
  • Coleg Meirion Dwyfor
  • Ysgol Uwchradd Yr Eglwys Newydd
  • Coleg Menai
  • Cynnal - Ysgol Gyfun Llangefni
  • Coleg Llandrillo
  • Ysgol Prestatyn
  • Coleg Pen-y-bont
  • Ysgol Uwchradd Pontypridd
  • Coleg Y Barri
  • Coleg Ystrad Mynach
  • Ysgol San Cennydd
  • Ysgol Gyfun Bro Morgannwg
  • Coleg Glan Hafren
  • Coleg Abertawe
  • Ysgol Gyfun Gŵyr