- English
- |
- Cymraeg
Beth yw Bagloriaeth Cymru?
Mae Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster cyffrous i fyfyrwyr yng Nghymru sy'n ychwanegu dimensiwn newydd gwerthfawr at y pynciau a'r cyrsiau sydd ar gael eisoes i fyfyrwyr 14 i 19 mlwydd oed.
Mae'n cyfuno sgiliau datblygiad personol â chymwysterau sy'n bodoli eisoes megis y safonau Uwch, NVQ a TGAU er mwyn ffurfio un dyfarniad ehangach sy'n cael ei werthfawrogi gan gyflogwyr a phrifysgolion.
Cyflwynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Fagloriaeth Cymru i trawsffurfio dysg pobl ifanc yng Nghymru. Mae'r profiadau sy'n rhan ohono'n ehangach na'r hyn a geir mewn rhaglenni dysgu traddodiadol, er mwyn bod yn addas i amrywiol anghenion pobl ifanc. Gellir ei hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, neu fel cyfuniad o'r ddwy iaith.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru am gael ceisiadau gan y canlynol:
- canolfannau newydd sydd am ddechrau cyflwyno Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ar Lefel Sylfaen 14 - 16 a Lefel Ganolradd yn y darpariaeth cyn-16 o fis Medi 2011, a:
- canolfannau presennol Bagloriaeth Cymru sydd am newid/cynyddu nifer myfyrwyr Bagloriaeth Cymru yn eu canolfannau y tu hwnt i'r rhai sydd wedi cytuno eisoes neu sydd am newid y lefelau y mae'n cael ei chynnig arnynt.
Gwahoddir canolfannau i wneud cais i gyflwyno Cymhwyster Bagloriaeth Cymru o fis Medi 2011. Dyddiau cau cyflwyno ceisiadau yw Tachwedd 2010.
Ffurflen gais i gymryd rhan mewn Cymhwyster Bagloriaeth Cymru Lefel Sylfaen 14-19 a Lefel Canolradd cyn 16 o fis Medi 2011