- English
- |
- Cymraeg
Coleg Gwent, De Ddwyrain Cymru
Mae gan y coleg chwe safle; Glyn Ebwy, Crosskeys, Casnewydd, Pontypwl, Brynbuga, Y Fenni, gyda phob un ohonynt yng Ngwent, De Ddwyrain Cymru.
Mae grwp o fyfyrwyr sy'n cymryd Tystysgrif CACHE mewn Gofal Plant ac Addysg yng nghampws Glynebwy wedi bod yn dilyn Diploma Canolradd y Bac Cymreig a bydd rhai o'r myfyrwyr hyn yn parhau â'r Diploma CACHE ym mis Medi 2004. Astudiodd y myfyrwyr Gymraeg ar gyfer eu Modiwl Iaith, a fydd, medden nhw, o gymorth iddynt gael gwaith mewn ysgolion meithrin cyfrwng Cymraeg. Mae ganddynt hefyd gyswllt ag ysgol yn Ghana.
Yn ogystal â chynnal y grwp CACHE yng Nglyn Ebwy a chynllunio grwpiau CACHE newydd yng Nghasnewydd a Phontypwl, mae cynlluniau ar waith i ehangu'r Bac Cymreig ar draws y rhaglenni canlynol yn Crosskeys a Chasnewydd; GNVQ Canolradd mewn Busnes, e-Gymwysterau City and Guilds, UG Dyniaethau, GNVQ Canolradd mewn TGCh, Diploma Cenedlaethol mewn Buses a'r Diploma Cenedlaethol mewn Chwaraeon a Hamdden. Mae pedwar allan o chwe champws Coleg Gwent bellach yn peilota'r Bac Cymreig.
Mae'r tîm cyflwyno yng Nglyn Ebwy wedi cyfannu gofynion y Craidd Bac Cymreig yn llwyddiannus i mewn i'r rhaglen CACHE a bydd y Coleg yn tynnu ar eu profiad i ddyblygu'r strategaeth hon ar draws rhaglenni eraill.