Ysgol Uwchradd Llanfair ym Muallt, Powys, Canolbarth Cymru

Mae'r holl fyfyrwyr sy'n mynychu'r chweched dosbarth yn Ysgol Uwchradd Llanfair ym Muallt yn dilyn Bagloriaeth Cymru. Bydd y drydedd garfan o fyfyrwyr yn cwblhau'r Diploma Uwch yn yr haf.
Mae 130 o fyfyrwyr yn y chweched dosbarth yn dilyn amrediad eang o bynciau UG/U2 yn eu Hopsiynau. Mae'r ysgol yn ddwyieithog a gall y myfyrwyr ddilyn rhai cyrsiau/pynciau naill ai yn Gymraeg neu Saesneg.
Mae gan yr ysgol gysylltiadau rhyngwladol ardderchog, gan gynnwys rhai gydag UDA, Awstralia, Sbaen a'r Eidal, a threfnir teithiau cyfnewid gydag ysgolion eraill sy'n galluogi'r myfyrwyr i gyfannu rhannau 'Modiwl Iaith' a 'Gweithio gyda Chyflogwr' y Craidd gyda'r rhaglen gyfnewid.
Ym mis Medi 2006, cychwynnodd yr ysgol y peilot ar gyfer Dyfarniadau Sylfaen/Canolradd cyn-16 gyda grwp o ugain myfyriwr blwyddyn 10.