Y Cymhwyster

Mae dwy ran i Gymhwyster Bagloriaeth Cymru:

Y Craidd - sy'n cynnwys pum cydran h.y. Sgiliau Allweddol, Cymru, Ewrop a'r Byd, Addysg Gysylltiedig â Gwaith, Addysg Bersonol a Chymdeithasol a'r Ymchwiliad Unigol.

Opsiynau - cyrsiau / rhaglenni sy'n cael eu cynnig ar hyn o bryd e.e. Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd (TGAU), TGAU Galwedigaethol, Uwch Gyfrannol / Uwch (UG / Safon Uwch), Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ), Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg (CABAT), Prif Ddysgu a Chymwysterau Project.

Gyda'i gilydd mae'r Craidd a'r Opsiynau'n ffurfio Cymhwyster Bagloriaeth Cymru.

Diagram_Bac_Cymraeg

Mae Cymhwyster Bagloriaeth Cymru wedi'i gymeradwyo'n genedlaethol ac yn cael ei gynnig ar hyn o bryd ar lefelau Sylfaen, Canolradd ac Uwch. Yn dilyn peilot llwyddiannus, a gychwynnodd ym mis Medi 2003, mae'r cymhwyster hwn bellach yn cael ei astudio gan fyfyrwyr mewn ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant trwy Gymru.


Tair lefel Cymhwyster Bagloriaeth Cymru

Lefel Opsiynau

Rydych chi’n penderfynu pa lefel yr ydych chi’n dymuno ei dilyn drwy edrych ar y lefel yr ydych chi’n gweithio arni ar gyfer eich opsiynau. Er enghraifft, os ydych chi’n debygol o gael graddau A* – C yn bennaf ar lefel TGAU, byddech yn dilyn y Diploma Canolradd.