- English
- |
- Cymraeg
Y Cymhwyster
Addysg Gysylltiedig â'r Gwaith
Mae Addysg Gysylltiedig â'r Gwaith yn cynnwys gweithio gyda chyflogwr a gweithgaredd menter tîm.
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr weithio gyda chyflogwr am o leiaf 30 awr. Bydd hyn yn rhoi profiad gwerthfawr iddynt o fyd gwaith a byddant yn llenwi ffurflen hunan-werthuso i edrych yn ôl ar y profiad a'r hyn a ddysgwyd ganddynt.
Byddant hefyd yn cymryd rhan mewn Gweithgaredd Menter Tîm am o leiaf 30 awr ar y lefel Uwch a 15 awr ar y lefelau Sylfaen a Chanolradd a fydd yn helpu iddynt ddeall sut mae busnesau'n gweithio ac yn eu helpu i ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd.
Mae'r gydran hon yn cyfrannu at addysg ac arweiniad am yrfaoedd trwy gyflwyno'r myfyriwr i ddarpar ddewisiadau gyrfa a syniad gwell o'r hyn yw byd gwaith.