Model CBC

Mae Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster tros-fwaol yn cynnwys dwy ran: y Craidd a'r Opsiynau.

Mae'r Opsiynau yn gymwysterau wedi'u cymeradwyo y mae myfyrwyr yn eu cymryd ar hyn o bryd mewn ysgol neu goleg ôl-16. Bydd y myfyrwyr yn parhau i ddewis o'r Opsiynau sydd ar gael yn eu hysgol/coleg, fel y maent yn awr yn eu hastudiaethau ôl-16.

Y Craidd yw'r rhan newydd ac arloesol o Fagloriaeth Cymru. Mae'n orfodol ac yn cynnwys pum cydran:

  • Sgiliau Allweddol
  • Cymru, Ewrop a'r Byd
  • Addysg Gysylltiedig â Gwaith
  • Addysg Bersonol a Chymdeithasol
  • Ymchwiliad Unigol

Bwriedir y pedair cydran olaf i gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ennill eu sgiliau allweddol. Cliciwch ar y testunau i ddarganfod mwy am y cydrannau a gwybodaeth arall ar y Bac Cymreig.

Cysylltwch â Thîm y Project (02920 265010, info@wbq.org.uk) am gopïau o'r manylebau diweddaraf.