- English
- |
- Cymraeg
Y Cymhwyster
Cymru, Ewrop a'r Byd
Yn y rhan hon o Fagloriaeth Cymru, bydd y myfyrwyr yn dysgu mwy am Gymru a'i lle yn Ewrop a'r Byd.
Ceir pedair elfen yn Cymru, Ewrop a'r Byd:
Ar y lefelau Sylfaen a Chanolradd rhaid i ymgeiswyr ystyried pob un o'r elfennau canlynol:
Gwleidyddiaeth
Materion Cymdeithasol
Materion Economaidd a thechnolegol
Materion diwylliannol
At y lefel Uwch rhaid i ymgeiswyr ystyried materion allweddol ym mhob un o'r elfennau canlynol:
Materion gwleidyddol
Sialensau cymdeithasol ac ymatebion
Effaith newid economaidd a thechnolegol
Treftadaeth a safbwyntiau diwylliannol
Bydd athrawon yn annog trafodaeth ac ymryson ar y materion allweddol. Gallant wahodd siaradwyr gwadd a threfnu ymweliadau â mannau a sefydliadau perthnasol. Mae'r rhan hon o Fagloriaeth Cymru yn rhoi profiadau cadarnhaol i'r myfyrwyr ac yn eu cynorthwyo i ddysgu trwy wneud.
Mae gan y gydran Cymru, Ewrop a'r Byd Fodiwl Iaith hefyd. Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau iaith yn eu hiaith ddewisedig. Gallai hyn fod o lefel dechreuwr neu trwy adeiladu ar sgiliau sydd ganddynt eisoes.