Tiwtora a mentora

Mae gan bob myfyriwr Bagloriaeth Cymru diwtor personol a'r hawl i gael tiwtorial personol un-i-un bob hanner tymor. Yn ogystal, bydd y myfyriwr yn cael tiwtorialau grwp

Bydd y tiwtor personol yn helpu'r myfyriwr trwy ei astudiaethau, gan gynorthwyo i osod targedau ac i ddilyn cynlluniau gweithredu unigol. Byddant yn gweithio gyda'i gilydd i olrhain cynnydd y myfyriwr, gan nodi unrhyw feysydd lle y ceir anhawster, megis sgiliau astudio a llenwi ffurflenni UCAS, a'u goresgyn,.

Mae gweithio fel hyn yn helpu'r myfyriwr i ddatblygu'r sgil allweddol Gwella Eich Dysgu a'ch Perfformiad Eich Hun.