Richard Carter

Cyfeiriad E-bost richard.carter@wjec.co.uk
Job Title Ymgynghorydd Datblygu CBC

Ymunodd Richard â CBAC ym 1985 fel Swyddog Adnoddau Hanes Cymru, gyda'r cyfrifoldeb am gydlynu datblygiad adnoddau ymhlith deg o wahanol asiantaethau a sefydliadau. Ar ôl hynny, fe'i penodwyd yn Swyddog Pwnc yn yr Adran Arholiadau, gyda chyfrifoldeb am Hanes a'r Dyniaethau. Penodwyd Richard wedyn yn Ysgrifennydd Cynorthwyol (UG/Safon Uwch), swydd y bu ynddi am ddeng mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu'n gyfrifol am oruchwylio gweithrediad y newidiadau yn yr UG a'r Safon Uwch a ddaeth yn sgîl Arolwg Dearing, ac yn fwy diweddar Cwricwlwm 2000. Mae Richard yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Ymunodd Richard â thîm y Bac Cymreig yn 2001 ac mae yn parhau i weithio ar y prosiect mewn rôl ymgynghorol.