- English
- |
- Cymraeg
Y Cymhwyster
Cymwysterau Prif Ddysgu a Phrosiect
Mae Cymhwyster Bagloriaeth Cymru (CBC) yn gymhwyster sydd wedi’i hen sefydlu ac yn uchel ei barch ac mae ei strwythur eisoes yn gymwys i gynnwys y cymwysterau Prif Ddysgu a phrosiect cymhwysol newydd fel opsiynau pellach.
Beth yw Cymwysterau Prif Ddysgu?
Mae Cymwysterau Prif Ddysgu yn gymwysterau newydd a ddatblygwyd mewn partneriaeth gyda chyflogwyr a phrifysgolion. Byddant yn rhoi golwg i ddysgwyr ar yr hyn sy’n cael ei gynnwys mewn maes galwedigaethol heb ymrwymo’r dysgwr i yrfa yn y maes hwnnw.
Bydd cyfleoedd i brofi gwahanol arddulliau dysgu mewn gwahanol amgylcheddau fel ysgol, coleg a gweithle, gyda phwyslais ar weithgareddau ymarferol.
Gellir defnyddio cymwysterau Prif Ddysgu ynghyd â, neu yn lle, cymwysterau cymeradwy eraill fel rhan o ofynion yr Opsiynau o fewn Cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Byddant ar gael ar lefelau 1 [Sylfaen], 2 [Canolradd] a 3 [Uwch] y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol. Mae dysgwyr sy’n cymryd cymwysterau Prif Ddysgu yn gorfod cymryd y cymwysterau Prosiect hefyd, ar yr un lefel.
Bydd y cymwysterau Prif Ddysgu yn cael eu cyflwyno bob yn dipyn dros dair blynedd. O fis Medi 2010, bydd y canlynol ar gael:
- Technoleg Gwybodaeth
- Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
- Peirianneg
- Chreadigol a’r Cyfryngau
- Cymdeithas, Iechyd a Datblygiad
- Astudiaethau Amgylcheddol a Diwydiannau’r Tir
- Gweinyddiaeth Busnes a Chyllid
- Gweithgynhyrchu a Dylunio Cynhyrchion
- Astudiaethau Gwallt a Harddwch
- Lletygarwch
Ymwelwch â gwefan y Corff Dyfarnu perthnasol am fanylebau'r cymhwyster.
Erbyn 2011 byddant ar gael mewn pedwar maes galwedigaethol pellach: Teithio a Thwristiaeth; Gwasanaethau Cyhoeddus; Chwaraeon a Hamdden a Manwerthu.
Beth yw’r Cymwysterau Prosiect/Prosiect Estynedig?
Mae’r Cymwysterau Prosiect/Prosiect Estynedig yn gymwysterau annibynnol a fydd yn gadael i’r dysgwyr ddewis eu pynciau eu hunain a datblygu sgiliau i reoli a chyflwyno eu dysgu. Byddant ar gael ar lefel 1 [Sylfaen], lefel 2 [Canolradd] a lefel 3 [Uwch] a gellir eu cymryd fel rhan o neu ar wahân i Gymhwyster Bagloriaeth Cymru.
Os cymerir y Prosiect o fewn Bagloriaeth Cymru, rhoddir cyfleoedd i’r dysgwyr dynnu ar ac integreiddio eu dysgu o bob cydran o Gymhwyster Bagloriaeth Cymru. Hefyd, gall y cymhwyster Prosiect/Prosiect Estynedig gymryd lle gofyniad Ymchwiliad Unigol Bagloriaeth Cymru ar lefel 1 a 2, cyn belled ag y bo’r Prosiect hefyd yn bodloni gofynion Cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Mae dysgwyr sy’n cymryd Cymwysterau Prif Ddysgu yn gorfod cymryd y Cymwysterau Prosiect ar yr un lefel â’u Prif Ddysgu.
Pam cymryd opsiwn y cymwysterau Prif Ddysgu a’r Prosiect/Prosiect Estynedig?
Mae opsiwn y cymwysterau Prif Ddysgu a’r Prosiect/Prosiect Estynedig o fewn Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn darparu’r wybodaeth pwnc fanwl a’r sgiliau ymarferol y mae ar fusnesau a sefydliadau addysg uwch eu heisiau. Mae’n helpu i sicrhau bod gan y dysgwr y sgiliau iawn i lwyddo mewn economi fyd-eang sy’n symud yn gyflym.