Cymdeithas, iechyd a datblygiad

Mae Prif Ddysgu mewn Cymdeithas, Iechyd a Datblygiad yn cynnwys y pedwar sector: iechyd, gofal cymdeithasol i oedolion, gweithlu’r plant a chyfiawnder cymunedol a sut maent yn gweithredu yng Nghymru. Mae’n datblygu’r sgiliau sy’n bwysig ar gyfer gweithio’n llwyddiannus yn y meysydd hyn: datrys problemau, gweithio mewn tîm, cyfathrebu ac ymarfer myfyrio, yn ogystal â dysgu am faterion sy’n berthnasol i’r sector megis dysgu sut i atal heintiau, rôl chwarae ym maes dysgu, a sut i ymdrin â materion moesol.

Mae’n cynnwys:

  • Y sectorau yn eu cyd-destun: Mae hyn yn canolbwyntio ar y ffactorau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd sy’n effeithio ar y pedwar sector yng Nghymru heddiw.
  • Egwyddorion a gwerthoedd ar waith: Y gwerthoedd a’r egwyddorion sy’n sail i arferion pawb ar draws y sectorau ac sy’n cyfrannu at yr arferion hyn, gan sicrhau bod yr unigolyn sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn ganolog i’r ddarpariaeth.
  • Gweithio mewn partneriaeth: Mae arferion gweithio newydd yn golygu y gall gwasanaethau gydweithio’n agosach er mwyn sicrhau safon, mwy o hyblygrwydd a defnyddio adnoddau’n fwy effeithlon er mwyn cefnogi a darparu gwasanaethau. Er enghraifft, mewn canolfannau i deuluoedd, bydd pobl o’r gwasanaethau cymdeithasol a’r gwasanaethau iechyd a phlant oll yn gweithio er mwyn sicrhau gwasanaethau integredig ac o safon i blant a theuluoedd.
  • Cyfathrebu a rhannu gwybodaeth: Mae cyfathrebu da yn hanfodol i bobl sy’n gweithio ar draws y sectorau. Beth yw’r rhwystrau o ran cyfathrebu’n dda, sut y gellir eu goresgyn ac a oes tensiynau rhwng rhannu gwybodaeth a chyfathrebu’n dda â gweithwyr proffesiynol eraill a pharchu preifatrwydd unigolion?
  • Datblygiad personol a phroffesiynol yn yr amgylchedd gwaith: Mae gallu pwyso a mesur eich arferion eich hun yn elfen hollbwysig o ddatblygiad personol - beth a wnaethoch yn dda, beth y gellir ei wella, sut y gallwch wella eich arferion eich hun?
  • Diogelu ac amddiffyn unigolion a chymdeithas: Mae pobl yn y sectorau hyn yn aml yn gweithio gyda’r grwpiau mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Mae’n bwysig deall beth y mae angen ei wneud er mwyn sicrhau y caiff y bobl hyn eu cadw’n ddiogel.