- English
- |
- Cymraeg
Y Cymhwyster
Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
Mae cymwysterau Prif Ddysgu mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig yn rhoi cyflwyniad i’r meysydd galwedigaethol yn y sector ac yn rhoi cyfleoedd i gaffael sgiliau gwerthfawr ac i ddysgu am ystod eang o wahanol ddiwydiannau fel pensaernïaeth, gwaith dur strwythurol, peintio ac addurno, gwydro a thirfesur. Mae’r ystod o bynciau yn dwyn y diwydiannau cysylltiedig hyn at ei gilydd, ac yn ystyried y meysydd perthnasol fel cynaladwyedd a’r effaith ar yr amgylchedd, fel bod y dysgwr yn deall sut maent yn cysylltu â’i gilydd.
Mae’r elfennau’n cynnwys:
- Dylunio’r amgylchedd adeiledig - ymchwilio i sut y dylunnir ac yr adeiladir yr amgylchedd adeiledig a sut mae’n effeithio ar bobl a chymunedau a sut mae hanes, gwleidyddiaeth ac economeg yn effeithio arno;
- Creu’r amgylchedd adeiledig - datblygu ystod o sgiliau a gwybodaeth sy’n angenrheidiol mewn diwydiannau gwahanol - er enghraifft, defnyddio offer a deall dulliau a deunyddiau modern;
- Gwerthfawrogi a defnyddio’r amgylchedd adeiledig - dadansoddi’r angen am reolaeth dda a gwaith cynnal parhaus a deall pwysigrwydd dyluniad da, crefftwaith a gwaith tîm.
Mwy o wybodaeth: www.cbediploma.co.uk