Technoleg Gwybodaeth

Mae cymwysterau Prif Ddysgu mewn TG yn rhoi golwg ymarferol ar sut mae technoleg yn chwarae rhan allweddol mewn busnes. Bydd y dysgwr yn darganfod beth mae gwahanol bobl yn y diwydiant yn ei wneud – yn ogystal â sut i reoli prosiectau, dylunio atebion busnes newydd, datblygu gwefannau, rheoli rhwydweithiau a chyflenwi cymorth TG.

Mae’n cynnwys:

  • archwilio’r systemau technoleg mewn busnes
  • edrych ar effaith technoleg ar fudiadau, unigolion a’r gymdeithas
  • cynhyrchu systemau technoleg ar raddfa fach, yn cynnwys basau data a rhwydweithiau
  • creu deunyddiau aml-gyfrwng
  • dysgu sut i reoli a gweithredu prosiectau TG llwyddiannus
  • datblygu sgiliau gwaith tîm, cyfathrebu a datrys problemau.

Mwy o wybodaeth: www.e-skills.com