- English
- |
- Cymraeg
Y Cymhwyster
Astudiaethau gwallt a harddwch
Bydd Prif Ddysgu mewn Gwallt a Harddwch yn ymdrin â materion sy’n dylanwadu ar y sector heddiw ac yn ei yrru. Bydd yn edrych ar sut mae’r sector gweithio a pha sgiliau sy’n ofynnol i weithio ynddo. Mae’n cynnwys y chwe diwydiant sy’n rhan o’r sector gwallt a harddwch: trin gwallt, gwaith barbwr, trin gwallt a gwaith barbwr Affricanaidd-Caribïaidd, therapi harddwch, therapi sba a gwasanaethau ewinedd a’r berthynas rhwng pob un o’r elfennau a diwydiannau eraill.
Mae’r elfennau’n cynnwys:
- Cyflogadwyedd: mae’n edrych ar yr amgylchedd byd-eang y mae busnesau gwallt a harddwch yn gweithredu ynddo, ynghyd â chyflwyniad personol, hylendid a lles. Dysgir egwyddorion triniaethau a rheolweithiau sylfaenol gwallt, harddwch ac ewinedd – ynghyd â gwahaniaethau hanesyddol a diwylliannol.
- Ymdrin â chwsmeriaid: Dysgu sgiliau cyfathrebu, yn amrywio o ymgynghoriadau gyda chleientiaid i reoli disgwyliadau, yn ogystal â hyrwyddo a gwerthu drwy argymell. Cyflwynir y systemau a’r prosesau busnes sylfaenol a geir yn nerbynfa salon
- Creadigrwydd ac arloesi: Ymchwilio i sut mae modd mynegi personoliaeth, diwylliant, hil, rhyw, ffasiwn a dylanwadau crefyddol drwy steil gwallt, gofal croen a thechnegau coluro. Dysgir am bwysigrwydd arloesi wrth gynllunio cynnyrch gwallt a harddwch.