Astudiaethau amgylcheddol a diwydiannau’r tir

Mae Prif Ddysgu mewn Astudiaethau Amgylcheddol a Diwydiannau’r Tir yn darparu profiad uniongyrchol o’r cyfleoedd, y galwedigaethau a’r llwybrau gyrfaol y mae’r sector yn eu cynnig. Mae’n datblygu sgiliau gwyddonol, sgiliau cyfathrebu a sgiliau rheoli ac yn cynnwys yn gwneud gwaith maes i astudio gwahanol. Bydd materion amgylcheddol yn parhau i dyfu mewn pwysigrwydd ac yn rhoi datblygiadau a chyfleoedd newydd i helpu rheoli ein planed..

Mae’r elfennau’n cynnwys:

  • Amgylcheddau cynhyrchiol ac amgylcheddau gwaith – sy’n edrych ar adnoddau cyfyngedig ein hamgylchedd naturiol, ein heffaith ni arno, sut mae’r amgylchedd yn dylanwadu arnom ni a sut y caiff yr adnoddau hyn eu defnyddio
  • Planhigion ac anifeiliaid – sy’n edrych ar y ffordd yr ydym yn defnyddio planhigion at ddibenion masnachol, adloniadol a chadwraethol, ac anifeiliaid i gynhyrchu (bwyd), ar gyfer adloniant a gwaith neu ar gyfer cwmnïaeth
  • Datblygu’r amgylchedd cynaliadwy – sy’n edrych ar yr effaith a gawn ar ein hamgylchedd ac mor bwysig yw defnyddio arferion ‘gwyrdd’ sy’n ystyriol o’r amgylchedd

Mwy o wybodaeth: www.lantra.co.uk