- English
- |
- Cymraeg
Y Cymhwyster
Peirianneg
Mae cymwysterau Prif Ddysgu mewn Peirianneg yn edrych ar y prif egwyddorion allweddol peirianneg fel dylunio, deunyddiau, systemau electronig, gwaith cynnal a chadw a gweithgynhyrchu. Mae hefyd yn rhoi cyfleoedd i archwilio ac asesu’r sgiliau ymarferol a chysyniadau sydd y tu ôl i Beirianneg a sut maent yn effeithio ar y byd modern.
Mae’n cynnwys:
- Byd peirianyddol - edrych ar bwysigrwydd peirianneg yn y byd modern;
- Darganfod technoleg peirianneg - cyflwyno egwyddorion sylfaenol peirianneg fel dylunio, deunyddiau, systemau electroneg, gwaith cynnal a chadw a gweithgynhyrchu;
- Peirianneg yn y dyfodol - edrych ar beth sy’n gwneud i bethau newydd lwyddo, sut mae deunyddiau newydd yn cyfrannu at ddylunio a sut i ddatblygu a lansio syniadau newydd. Mae’r rhan hon o’r cwrs yn rhoi cyfle i’r dysgwr ymchwilio i agweddau creadigol.