Busnes, gweinyddiaeth a chyllid

Mae Prif Ddysgu mewn Busnes, Gweinyddiaeth a Chyllid yn rhoi profiad i ddysgwyr ar sut i sefydlu a rhedeg eich busnes eich hun, gan werthu cynnyrch y maen nhw wedi’i greu. Byddant yn dysgu ymdopi â newid, sut mae parhau’n gystadleuol, a byddant yn canfod sut mae ffactorau allanol fel technolegau newydd, tueddiadau defnyddwyr, materion amgylcheddol a globaleiddio yn gallu effeithio ar fusnes. Mae’n datblygu sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol, dinasyddiaeth, gweithio fel tîm, gweinyddiaeth, ymchwil a dadansoddi, a rhoi cyflwyniadau.

Mae’n cynnwys:

  • Menter busnes: Datblygu syniadau, gwneud ymchwil a hyrwyddo cynnyrch neu wasanaethau
  • Gweinyddiaeth busnes: Dysgu am weinyddiaeth busnes a pha mor bwysig yw i sefydliadau
  • Cyllid: Mae’n dysgu’r wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen arnoch i reoli cyllid personol a chyllid busnes