Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh)

Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh)

Ceir pum elfen yn y gydran hon. Y pedair gyntaf yw:

  • Perthnasoedd Cadarnhaol
  • Iechyd a lles emosiynol
  • Dinasyddiaeth weithgar
  • Datblygiad cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang

Ym mhob elfen ceir tri mater allweddol a rhaid i fyfyrwyr fynd i'r afael ag un o'r tri. Golyga hyn fod gan athrawon a myfyrwyr beth dewis o fewn yr elfennau fel y gellir teilwra rhaglen i gwrdd ag anghenion y myfyriwr ac osgoi ailadrodd materion yr ymdriniwyd â hwy'n flaenorol.

Mae gofyn i fyfyrwyr hefyd ymhel â gweithgaredd yn y gymuned leol, sef y bumed elfen yn yr ABCh. Mae disgwyl i ymgeiswyr dreulio 15 awr ar y gweithgaredd hwn ar y lefelau Sylfaen a Chanolradd a 30 awr ar y lefel Uwch.