Sgiliau Allweddol

Y Sgiliau Allweddol yw:

  • Cyfathrebu
  • Cymhwyso Rhif
  • TG
  • Gwella Eich Dysgu a'ch Perfformiad Eich Hun
  • Gweithio gydag Eraill
  • Datrys Problemau

Adnabyddir Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a TG fel y 'tri sgil allweddol cyntaf'. Adnabyddir Gwella Eich Dysgu a'ch Perfformiad Eich Hun, Gweithio gydag Eraill a Datrys Problemau yn 'sgiliau allweddol ehangach'.

Dyluniwyd tair cydran arall y Craidd - Cymru, Ewrop a'r Byd, Addysg Gysylltiedig â'r Gwaith (AGG) ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh) - i roi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu'r chwe sgil allweddol hyn mewn ffordd naturiol, gyd-destunol.

I ennill y tri Sgil Allweddol cyntaf a'r Sgiliau Allweddol ehangach rhaid i fyfyrwyr ddarparu portffolio o dystiolaeth i'w asesu.