- English
- |
- Cymraeg
Y Cymhwyster
Asesiad o'r Craidd
Asesiad o'r Craidd
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr gadw dyddiadur/cofnod o'u gweithgareddau a phrofiadau e.e. yn ymwneud â Chymru, Ewrop a'r Byd ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol, ynghyd â'r gweithgareddau yn Addysg Gysylltiedig â Gwaith ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol.
Yn ogystal, bydd angen datganiad gwirio a gwerthuso ar gyfer y Cyfranogiad Cymunedol a Gweithio gyda Chyflogwr.
Sgiliau Allweddol
I ennill sgiliau allweddol Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif, TGCh, Gwella Eich Dysgu a'ch Perfformiad Eich Hun, Gweithio gydag Eraill a Datrys Problemau, bydd rhaid i'r myfyrwyr ddarparu portffolios o dystiolaeth.
Ymchwiliad Unigol
Ceir meini prawf asesu ar lefelau 1, 2 a 3 ar gyfer yr Ymchwiliad Unigol, sydd yn llwyddiant/methiant.
Modiwl Iaith
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr gwblhau dull cymeradwyedig o hunan-asesu, (gellir defnyddio'r Portffolio Iaith Ewropeaidd hefyd), sy'n cofnodi cynnydd eu sgiliau iaith mewn unrhyw iaith.