Gofynion ar gyfer y Diploma Sylfaen

I ennill Diploma Sylfaen Bagloriaeth Cymru rhaid i fyfyrwyr gyflawni'r dystysgrif graidd a chymwysterau opsiynol:-

Tystysgrif Graidd ar Lefel 1

  • Pedwar sgil allweddol ar lefel 1, y mae'n rhaid iddynt gynnwys un o Gyfathrebu, Cymhwyso Rhif a TGCh, a thystiolaeth o fod wedi gweithio ar y chwe sgil allweddol.
  • Cofnodion dyddiadur a datganiadau dilysu lle y bo'r rheini'n berthnasol, ar gyfer Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Cymru, Ewrop a'r Byd (gan gynnwys y modiwl iaith) ac Addysg Gysylltiedig â Gwaith
  • Ymchwiliad Unigol ar lefel 1.

Gall ymgeiswyr amnewid cymhwyster mewn TGAU Astudiaethau Cyfrifiadur, TGCh neu Systemau Gwybodaeth ar Radd G neu uwch am y gofyn sgìl allweddol mewn TGCh.

Opsiynau

NVQ lefel 1, Diploma Rhagarweiniol BTEC neu gyfatebol, neu o leiaf bedair TGAU D-G neu gyfatebol.
Cymwysterau Prif Ddysgu a phrosiect estynedig ar lefel 1.

Noder: efallai na fydd rhai pethau cywerth, o ran NVQ, TAA, BTEC neu gymwysterau eraill yn gwbl amlwg. Dylai canolfannau gyfeirio achosion o'r fath, neu ymholiadau tebyg, i CBAC.